Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol

Cyfarfod 24 Ionawr, Ystafell Briffio’r Cyfryngau yn y Senedd

Lansio Prosbectws “Diben Busnesau Cydfuddiannol a Chydweithredol mewn Cymdeithas”.

Yn bresennol

Bethan Webber

Vikki Howells AS

Mark Isherwood AS

Siân Gwenllian AS

Hannah Blythyn AS

Huw Irranca-Davies AS

Daniel Roberts

Robin Lewis

Robert Kelly

Tom Laing

Kate Creagh

Andrew Whyte

Andy Morris

Stuart Tragheim

Nathan Griffiths

Julie-Ann Haines

Harri Jones

Jack Burnett

Krishna Patel

Cath Foan

 

Agorodd Vikki Howells AS y cyfarfod gan groesawu pawb i’r Senedd a rhoddodd drosolwg o bwysigrwydd cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol i Gymru a’i chymuned leol, a thrafododd y cymorth polisi a roddir i’r sector gan Lywodraeth Cymru a gwaith y Grŵp Trawsbleidiol.

Roedd cyflwyniad cyntaf y cyfarfod yn ymdrin â’r prosectws a laniswyd gan ABCUL, Association of Financial Mutuals, Building Societies Association, Co-operatives UK a’r National Industry Liaison Group, sef Diben Busnesau Cydfuddiannol a Chydweithredol mewn Cymdeithas.”  

Clywsom sut y mae cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yn rhoi dewis arall, cystadleuol, i fusnesau sy’n eiddo i gyfranddalwyr a’u bod yn hanfodol os yw’r DU am adeiladu economi gynhwysol, amrywiol, sy’n tyfu. Mae'r busnesau hyn hefyd yn rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr gan sicrhau gwerth cydfuddiannol i'w haelodau a'r gymdeithas ehangach.

Yn yr adroddiad, mae’r sector cydweithredol a chydfuddiannol yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i gefnogi busnesau sydd â phwrpas y tu hwnt i elw ac mae wedi cyhoeddi prosbectws cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae’n galw am dri pheth penodol:

·         Creu amgylchedd sy’n rhoi lle canolog i gwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol yn y strategaeth economaidd, gan hybu twf y sector cydfuddiannol

·         Datblyu fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol sy’n galluogi cwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol i ddiwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a chystadlu’n deg â busnesau eraill

·         Datgloi opsiynau ar gyfer cwmnïau cydfuddiannol a chwmnïau cydweithredol newydd, sy’n tyfu, i godi cyfalaf preifat

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o astudiaethau achos sy’n dangos yr effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y mae’r sector yn ei chael ar draws y DU.

Y siaradwr nesaf oedd Robert Kelly, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Undebau Credyd Prydain. Soniodd am effaith y sector hwn a sut y gellir ei dyfu, yn ogystal â’r heriau y mae’n eu hwynebu a sut y gellir eu datrys. Cyflwynwyd data am y sefyllfa hynod heriol y mae unigolion yn ei hwynebu a phwysigrwydd hanfodol sicrhau bod modelau ariannol moesegol, cynaliadwy a democrataidd ar gael i bobl yng nghyd-destun y defnydd cynyddol o fenthycwyr anghyfreithlon a niweidiol. Mae Undebau Credyd yn defnyddio ffyrdd arloesol o gynnig y modelau ariannol cynaliadwy hyn i gymunedau a'r hyn ac ystyriwyd sut y gall y llywodraeth sicrhau bod dylanwad da’r sector hwn yn gallu ehangu

Yna, trafododd Julie-Ann Haines, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality, eu strategaeth newydd a’u hymateb i’r galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy o safon yng Nghymru. Clywsom am fenthyciad masnachol pwysig y Principality, sef y £50m a fenthycodd i’r darparwr tai nid er elw, Grŵp Pobl, sy’n enghraifft o’i gynlluniau ariannu arloesol a’i ymrwymiad i sicrhau ei bod yn haws manteisio ar fenthyciadau ariannol i ddatblygu cartrefi newydd cynaliadwy.

Yn olaf, clywsom gan Bethan Webber, Prif Swyddog Gweithredol Cwmpas, asiantaeth datblygu cydweithredol Cymru. Rhoddodd Bethan fraslun o’i gweledigaeth ar gyfer cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru a’r amrywiaeth o fodelau y mae Cwmpas yn eu cefnogi ar draws gwahanol sectorau. Trafododd Bethan sut y mae Cwmpas yn ceisio trawsnewid y ffordd y mae’r economi’n gweithio yng Nghymru, gan roi pobl a llesiant wrth wraidd datblygu economaidd, a sut y bydd y model cydweithredol yn hanfodol i’r gwaith hwn.

Yn dilyn y cyflwyniadau hyn, cafwyd sesiwn Holi ac Ateb o'r llawr. Diolchodd Sian Gwenllian AS i’r siaradwyr am eu cyflwyniadau a thrafododd yr enghreifftiau niferus o fentrau cydweithredol a chymdeithasol hanfodol yn ei hetholaeth hi yn Arfon, a gofynnodd beth y gallem ei wneud yng Nghymru i helpu i gefnogi’r sector. Dywedodd y siaradwyr mai San Steffan sy’n dal yn gyfrifol am nifer o’r dulliau o ysgogi’r sector ond, er hynny, roedd gan Lywodraeth Cymru ran allweddol yn y broses o hyrwyddo’r sector, yn enwedig ym maes addysg. Soniodd Hannah Blythyn AS, y Gweinidog Partneriaethau Cymdeithasol, am y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus a aeth drwy’r Senedd yn ddiweddar, a’r rôl allweddol y gall cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol ei chwarae wrth geisio cyflawni uchelgais y ddeddfwriaeth hon.

Ar ôl y drafodaeth hon, diolchodd Vikki Howells AS i’r siaradwyr a’r gwesteion am y drafodaeth gadarnhaol am effaith y sector a gwahoddodd y rhai a oedd yn bresennol i barhau i ddilyn gwaith y Grŵp Trawsbleidiol.

Daeth y cyfarfod i ben.